Rhif y ddeiseb: P-06-1385

 

Teitl y ddeiseb: Cynnal arolwg diduedd o’r trigolion sy'n byw yn ardaloedd y cynllun peilot ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya

 

Testun y ddeiseb: O haf 2021 ymlaen, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot i ostwng y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol o 30mya i 20mya. Cynhaliwyd y cynllun peilot hwn mewn sawl ardal o amgylch Cymru, sef: y Fenni, Sir Fynwy; Canol Gogledd Caerdydd; Glan Hafren, Sir Fynwy; Bwcle, Sir y Fflint; Pentref Cilfriw, Castell-nedd a Phort Talbot; Llandudoch, Sir Benfro; Saint-y-brid, Bro Morgannwg; a Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

 

O 17 Medi 2023, mae’r terfyn cyflymder is o 20mya mewn ardaloedd trefol bellach wedi dod yn gyfraith gwlad. Fodd bynnag, nid oes unrhyw un wedi gofyn barn y bobl a oedd yn byw yn ardaloedd y cynllun peilot, gan gynnwys gofyn a ydynt o’r farn bod y cynllun peilot wedi llwyddo neu fethu, a gadwyd at y terfyn cyflymder neu a gafodd ei anwybyddu, ac a gafodd y newid ei blismona ai peidio.  Nid oes unrhyw un wedi gofyn i yrwyr sy'n dysgu neu yrwyr ifanc sydd â dyfeisiau monitro cyflymder wedi'u gosod yn eu cerbydau sut y gwnaethant ymdopi â'r newid cyflymder. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i bobl sy'n gweithio yn yr ardaloedd hyn sut mae’r newid wedi effeithio arnynt. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i berchnogion busnesau a ydynt o’r farn bod newid y terfyn cyflymder wedi effeithio ar eu busnesau neu niferoedd cwsmeriaid. Mae’n rhaid bod y wybodaeth hon yn hanfodol wrth geisio deall i ba raddau y bu’r cynllun peilot yn llwyddiant ai peidio. Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg o drigolion a busnesau o fewn ardaloedd y cynllun peilot, gan gynnwys adran i bobl ddweud eu dweud a gwneud awgrymiadau am y cynllun.


1.        Y cefndir

Yn 2019 sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried a ddylid cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y grŵp, gan gynnwys y dylid lleihau'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chynllun peilot ar draws wyth cymuned,  gosododd Llywodraeth Cymru y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) ym mis Mehefin 2022. Cafodd y Gorchymyn drafft ei basio gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022 a daeth i rym ym mis Medi 2023.

Fel y gwyddoch, mae'r polisi wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau ac mae dros 470,000 o bobl wedi llofnodi deiseb sy’n galw am ddirymu'r ddeddfwriaeth. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar fod adolygiad wedi’i gynnal o’r modd y cafodd y polisi ei weithredu. Cyhoeddwyd adroddiad interim y tîm adolygu annibynnol ar 20 Chwefror, a disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. 

Ardaloedd peilot

Fel y nodwyd, cynhaliwyd cynlluniau peilot mewn wyth cymuned ledled Cymru i dreialu terfyn diofyn o 20mya yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol. Mae'r deisebydd yn galw am gynnal arolwg i gael barn y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd peilot am yr effeithiau.

Cyhoeddwyd yr adroddiad monitro cyntaf ar yr effeithiau ym mis Mawrth 2023, a chyhoeddwyd adroddiad monitro terfynol (ar gyfer yr ardaloedd peilot) ym mis Chwefror 2024. Dyma a ddangosodd y data hyd at fis Mai 2023:

§    newidiadau “mawr cadarnhaol” mewn perthynas â Dangosyddion Perfformiad Allweddol ynghylch lleihau cyflymder ac agweddau at deithio llesol;

§    newid “bach cadarnhaol” o ran ymddygiad cerbydau/cerddwyr; a

§    "dim newid amlwg" o ran ansawdd aer lleol a newidiadau "bach negyddol" o ran amser teithio cerbydau, gan gynnwys gostyngiad cyffredinol mewn prydlondeb ar gyfer gwasanaethau bysiau oriau brig.

Ni chafodd Dangosyddion Perfformiad Allweddol eraill eu cynnwys fel rhan o’r  cynlluniau peilot – gan gynnwys monitro agweddau'r cyhoedd fel y mae'r deisebydd yn galw amdano – oherwydd “cwmpas daearyddol cyfyngedig” yr ardaloedd a’r “amserlenni byr ers eu rhoi ar waith”. Dyma a nodir yn yr adroddiad monitro terfynol:

[O ran] agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya… dim ond wrth i fwy o bobl brofi effeithiau 20mya ar ôl cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol y gellir asesu hyn. 

Monitro'r broses o gyflwyno’r terfyn newydd yn genedlaethol

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddogfen fframwaith monitro ar gyfer cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd yn genedlaethol. Mae hwn yn nodi'r amcanion polisi a'r dangosyddion sydd i’w defnyddio. Caiff data eu casglu am hyd at bum mlynedd ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd.

Bydd asesiadau yn cael eu cynnal yn erbyn cyfanswm o 12 o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (gweler adran 2.2 a ffigur 2 yn y fframwaith monitro). Mae'r fframwaith yn amlinellu'r ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd, y dulliau casglu data a’r amserlenni i'w defnyddio wrth fonitro'r polisi. Mae hyn yn cynnwys “arolygon agweddau ansoddol”. Nodir yn y fframwaith:

Byddwn yn edrych ar agweddau a chanfyddiadau pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r terfyn cyflymder wedi cael ei ostwng gan ddefnyddio arolygon agweddol ar ôl cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol. Bydd yr arolygon yn cynnwys cwestiynau ar agweddau tuag at ddefnyddio dulliau teithio llesol (cerdded, olwyno a seiclo) ar gyfer siwrneiau lleol mewn ardaloedd adeiledig, a byddant hefyd yn ystyried canfyddiadau ymatebwyr ar faterion yn ymwneud â chyflymder traffig, sŵn traffig ac effeithiau ar gymunedau. Bydd ffocws penodol ar grwpiau mwy agored i niwed mewn cymdeithas wrth gasglu data agweddol.

O ran amserlenni adrodd ffurfiol dyma a nodir yn y fframwaith:

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn paratoi adroddiad interim ar effeithiau cychwynnol y terfyn cyflymder safonol cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar sail data a gasglwyd hyd at chwe mis ar ôl gweithredu (mis Hydref 2023 i fis Mawrth 2024). Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024.  Bydd adroddiad pellach ar y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024.  Bydd adroddiadau ffurfiol yn cael eu cynnal yn flynyddol ar ôl hynny.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl sy'n trafod yn fanylach y gwaith o orfodi a monitro'r polisi.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Fel y nodwyd uchod, mae'r fframwaith monitro sy'n ymwneud â'r broses o gyflwyno’r terfyn newydd yn genedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at gynnal “arolygon agweddau ansoddol”.

Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 8 Chwefror, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, yn dweud nad oes cynlluniau i gynnal arolygon yn benodol yn yr ardaloedd peilot. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y fframwaith monitro.

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i roi manylion am yr adolygiad o’r modd y mae'r polisi wedi cael ei weithredu. Mae'n dweud y bydd adroddiad terfynol y tîm adolygu yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn toriad yr haf 2024. 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Ym mis Gorffennaf 2020, roedd dadl yn y Senedd ynghylch cyflwyno terfynau cyflymder diofyn 20mya gyda 45 o’r 53 o Aelodau yn pleidleisio o blaid y cynnig.

Fel y nodwyd, gosododd Llywodraeth Cymru y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) ym mis Mehefin 2022. Pasiwyd y Gorchymyn drafft gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022. Mae wedi cael ei drafod yn y Senedd ar sawl achlysur.

Ym mis Hydref 2023, bu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog ar y polisi.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.